Newyddion

Gwahoddiad i ysgolion y DU wneud cais am fenter ‘Taskmaster Club 100'

rubber duck in a bath

Mae'r Swyddfa Eiddo Deallusol (IPO) yn partneru â Taskmaster Education i gynnig cyfle newydd i adeiladu sgiliau ar gyfer ysgolion uwchradd, sef y 'Taskmaster Club 100'.

Mae'r fenter newydd arloesol hon yn canolbwyntio ar adeiladu sgiliau hanfodol yn y genhedlaeth nesaf o arloeswyr trwy weithgareddau hwyliog yn y dosbarth. Ei nod yw gwneud cyfleoedd dysgu creadigol yn hygyrch i fyfyrwyr rhwng 11 ac 16 oed o bob cefndir ledled y DU, ac mewn lleoliadau addysgol amrywiol.

Bydd hyd at 100 o ysgolion dethol yn cael mynediad arbennig i gyfres 'Taskmaster Club Bathtub', sy’n llawn cynlluniau gwersi hwyliog a rhyngweithiol sy'n canolbwyntio ar dasgau. Mae'r gweithgareddau parod hyn yn helpu i ddatblygu sgiliau allweddol fel rhesymu, datrys problemau, creadigrwydd, gwaith tîm, dyfalbarhad, llafaredd a gwydnwch, gan ddarparu llu o ddeilliannau addysgol.

Mae'r gyfres yn cynnwys cymwyseddau eiddo deallusol gwerthfawr mewn nodiadau addysgu, gan rymuso addysgwyr i wella gweithgareddau gyda chysyniadau o berchnogaeth greadigol, gwerth a diogelwch. Mae'r rhain yn helpu myfyrwyr i ddatblygu sgiliau hanfodol o ran deall a pharchu hawliau eiddo deallusol mewn byd sy’n dod yn fwyfwy digidol a rhyng-gysylltiedig.

I ymuno â Taskmaster Club 100, mae angen i ysgolion lenwi ffurflen gais fer ar-lein i gofrestru eu diddordeb.

I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: UK Schools invited to apply for ‘Taskmaster Club 100’ initiative - GOV.UK.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 15 Awst 2025.

A yw eich dysgwyr yn llawn syniadau busnes creadigol ac awydd i wneud gwahaniaeth?

Mae'r Gystadleuaeth Criw Mentrus yn cynnig cyfle unigryw i ysgolion cynradd yng Nghymru arddangos nid yn unig eu hysbryd entrepreneuraidd, ond eu creadigrwydd, eu hymrwymiad i gynaliadwyedd, a'u cymunedau lleol! Rhaid cyflwyno pob cais erbyn 4pm ar 16 Mehefin 2025.

Os ydych yn 25 oed neu'n iau ac yn wynebu rhwystrau sy'n eich atal rhag dechrau busnes, yn chwilio am gyfleoedd newydd, neu os oes gennych syniad busnes gwych yna gall Syniadau Mawr Cymru helpu.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.