Newyddion

Gwahoddiad i fusnesau caerdydd ddweud eu dweud ar ariannu rhwydwaith trafnidiaeth y ddinas yn y dyfodol

Cardiff

Mae Cyngor Caerdydd yn gwahodd busnesau, preswylwyr a rhanddeiliaid i ddweud eu dweud mewn ymgynghoriad cyhoeddus mawr sy'n archwilio mesurau posibl i helpu i ariannu gwelliannau i rwydwaith trafnidiaeth y ddinas yn y dyfodol.

Bydd yr ymgynghoriad yn rhedeg tan 17 Ionawr 2027 a bydd yn ceisio barn ar ystod o opsiynau a allai helpu i ariannu gwelliannau i drafnidiaeth gyhoeddus a mynd i'r afael â thagfeydd ledled y ddinas.

Mae creu rhwydwaith trafnidiaeth modern, dibynadwy a hygyrch yn rhan allweddol o uchelgeisiau hirdymor Caerdydd ar gyfer twf cynaliadwy. Mae Strategaeth Drafnidiaeth 10 mlynedd y Cyngor yn nodi cynlluniau i wella trafnidiaeth gyhoeddus, lleihau tagfeydd a chefnogi datblygu economaidd. Fodd bynnag, bydd cyflawni'r gwelliannau hyn yn gofyn am fuddsoddiad hirdymor sylweddol.

Mae Ardoll Parcio yn y Gweithle wedi dod i'r amlwg fel yr opsiwn dewisol y cyngor ar hyn o bryd oherwydd bod eu hasesiad yn awgrymu y gallai ddarparu ffynhonnell ariannu gynaliadwy tra'n cael llai o effaith uniongyrchol ar breswylwyr na rhai o'r dewisiadau amgen. Fodd bynnag, nid oes unrhyw benderfyniadau wedi'u gwneud, ac mae’r cyngor yn awyddus i glywed ystod eang o safbwyntiau cyn i unrhyw argymhellion gael eu gwneud.

Mae'r ymgynghoriad yn esbonio'r opsiynau sydd ar gael, ynghyd â'u manteision a'u heriau posibl. 

Mae tudalen we bwrpasol wedi'i chreu ar wefan y Cyngor - Ardoll Parcio yn y Gweithle - Cyngor Caerdydd - sy'n rhoi gwybodaeth am yr opsiynau cyllido sy'n cael eu hystyried, pam mae angen buddsoddiad ychwanegol, cwestiynau cyffredin, a sut y gall pobl gymryd rhan yn yr ymgynghoriad. Mae'r dudalen we hefyd yn cynnwys dolen i'r arolwg ar-lein.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.