Newyddion

Grŵp newydd i ddod â sefydliadau ynghyd yn sector amddiffyn cynyddol Cymru

Leanne Connor of Thales, Secretary of State for Wales Jo Stevens;,Cabinet Secretary for Economy, Rebecca Evans Stephanie Eden of Airbus

Gall busnesau, prifysgolion a cholegau Cymru gael mynediad bellach at gyfleoedd newydd yn y sector amddiffyn sy'n tyfu drwy Glwstwr Amddiffyn a Diogelwch Rhanbarthol Cymru, a lansiwyd heddiw (9 Mawrth 2026).

Mae'r clwstwr yn dwyn ynghyd sefydliadau - o fusnesau bach i brif gontractwyr byd-eang - i gryfhau cadwyn gyflenwi amddiffyn Cymru, datblygu technolegau newydd, a chreu swyddi medrus sy'n talu'n dda. Mae sector amddiffyn ac awyrofod cyfunol Cymru yn cyflogi 16,000 o bobl yn uniongyrchol, yn creu trosiant o £3.7 biliwn ac yn cyfrannu tua £1.5 biliwn mewn gwerth ychwanegol gros i economi Cymru.

Mae'r lansiad yn dilyn llofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth Bargen Twf Amddiffyn Cymru, sy'n dyrannu £50 miliwn i Gymru o fuddsoddiad o £250 miliwn ledled y DU mewn twf amddiffyn rhanbarthol. Mae llywodraeth y DU wedi ymrwymo i gynyddu gwariant ar amddiffyn i 2.6% o gynnyrch domestig gros (GDP) erbyn 2027–28, gan godi i 5% GDP ar ddiogelwch cenedlaethol erbyn 2035, gan greu cyfleoedd newydd sylweddol i fusnesau Cymru.

Bydd y clwstwr yn helpu cwmnïau Cymru, yn enwedig busnesau llai, i gael mynediad at gontractau'r Weinyddiaeth Amddiffyn, datblygu eu cadwyni cyflenwi, a chynyddu eu cyfran o wariant ar amddiffyn. Ar hyn o bryd mae Cymru'n cael tua 3% o gyfanswm gwariant y Weinyddiaeth Amddiffyn. Y nod yw cynyddu hyn i 5% neu fwy wrth i wariant cyffredinol y DU ar amddiffyn gynyddu.

Mae'r clwstwr yn cael ei arwain gan ddiwydiant, ei gadeirio gan gynrychiolwyr o Airbus Defence and Space a Thales, a'i gefnogi gan Lywodraeth Cymru a'r Weinyddiaeth Amddiffyn. Mae'n cysylltu busnesau ag wyth prifysgol a choleg addysg bellach Cymru, sy'n cynnal ymchwil o'r radd flaenaf mewn meysydd gan gynnwys seiberddiogelwch, opto-electroneg a deallusrwydd artiffisial.

Am ragor o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol: Grŵp newydd i ddod â sefydliadau ynghyd yn sector amddiffyn cynyddol Cymru | LLYW.CYMRU.

Gall arloesi helpu eich sefydliad i ddod yn fwy cystadleuol, cynyddu gwerthiant ac darganfod farchnadoedd newydd. Yma gallwch ddod o hyd i'r hyn o gyllid a chefnogaeth sydd ar gael i'ch helpu i arloesi: Datblygu syniadau ar gyfer busnes, cynhyrchion neu wasanaethau | Busnes Cymru.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.