Mae Small Business Britain, mewn partneriaeth â BT, wedi lansio'r Green Growth Awards a Green Growth 100, sy’n dathlu 100 o fusnesau bach ysbrydoledig yn y DU sy'n defnyddio cynaliadwyedd yn llwyddiannus i ysgogi twf busnes.
O leihau gwastraff ac arbed ynni, i ailfeddwl am gadwyni cyflenwi a denu cwsmeriaid newydd, mae'r busnesau hyn yn dangos nad yw cynaliadwyedd yn dda i'r blaned yn unig, mae'n dda i fusnesau hefyd!
Bydd Green Growth 100 yn hyrwyddo'r entrepreneuriaid hyn, yn rhannu eu straeon, ac yn ysbrydoli mwy o fusnesau bach i weithredu ar gynaliadwyedd wrth ysgogi proffidioldeb.
Bydd busnesau llwyddiannus yn cael eu gwahodd i ddigwyddiad gwobrwyo ym mis Mawrth 2026, a gynhelir gan BT, lle bydd dau gwmni nodedig yn derbyn Green Growth Award yr un - grant o £5,000 i'w helpu i ehangu eu nodau cynaliadwyedd.
Bydd gwobrau ychwanegol, nad ydynt yn rhai ariannol, hefyd yn cael eu dyfarnu ar y diwrnod.
Mae’r ceisiadau bellach ar agor!
Cyflwynwch eich cais erbyn 9 Ionawr 2026: Small Business Britain | Green Growth Awards.
Mae’r Addewid Twf Gwyrdd yn helpu busnesau Cymru i gymryd camau gweithredol tuag at wella eu cynaliadwyedd, arddangos yr effaith gadarnhaol maent yn ei gael ar bobl a lleoedd o’u cwmpas, yn ogystal ag ymuno â chymuned gynyddol o sefydliadau blaengar sy’n helpu Cymru i bontio dyfodol carbon isel. Drwy lofnodi’r Addewid Twf Gwyrdd, mae gofyn i’ch busnes ymrwymo i o leiaf un weithred gadarnhaol a fydd yn helpu i leihau eich ôl troed carbon a’ch effaith ar yr amgylchedd drwy sicrhau perfformiad cynaliadwy.