
Oes gennych chi ddiddordeb mewn cyflwyno eich busnes gwych, Prydeinig i brynwyr rhyngwladol ac a ydych chi ar gael ar gyfer digwyddiad epig diwrnod o hyd yn Llundain ddydd Mercher 5 Tachwedd 2025?
Mae Small Business Britain yn chwilio am fusnesau yn y sectorau canlynol:
- Bwyd a Diod
- Y Diwydiannau Creadigol
- Digidol a Thechnoleg
Cewch y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch i fod yn barod i gyflwyno eich busnes, a bydd arbenigwyr allforio yn ymuno â chi ar y diwrnod, i gynnig eu cyngor ac i'ch helpu i baratoi ar gyfer eich awr fawr.
Yn ogystal â chael y cyfle i gyflwyno'ch busnes ledled y byd, trwy lif byw i brynwyr yn eich diwydiant arbenigol, cewch gyfle i rwydweithio â pherchnogion busnesau bach eraill, pob un yn awyddus i ddod o hyd i farchnadoedd cyffrous, newydd, byd-eang ar gyfer eu cynnyrch a'u gwasanaethau.
Ac yn goron ar y cyfan, beth am aros yn Llundain ac ymuno â'r timau a gwesteion arbennig iawn ar gyfer digwyddiad dathlu gyda'r nos?
Os yw hwn yn swnio fel digwyddiad na ddylech ei fethu, a’ch bod chi’n rhydd i dreulio'r diwrnod cyfan gyda Small Business Britain ddydd Mercher 5 Tachwedd 2025, yna cwblhewch y ffurflen The Great British Pitch a chadwch lygad am ragor o wybodaeth a anfonir atoch yn fuan iawn.