
Mae'r Clothworkers' Foundation yn ariannu elusennau sydd wedi'u cofrestru yn y DU yn ogystal â Chwmnïau Buddiannau Cymunedol a sefydliadau nid-er-elw eraill yn y DU, gan gynnwys ysgolion arbennig.
Er mwyn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, rhaid i chi allu dangos bod gwaith eich sefydliad yn ymwneud ag un neu fwy o’r deg maes rhaglen, a bod o leiaf 50% o ddefnyddwyr gwasanaeth sy’n elwa o'r prosiect cyfalaf yn dod o un neu fwy o'r grwpiau hynny.
Y deg maes rhaglen yw:
- Cymunedau sy'n Wynebu Anghydraddoldebau Hiliol
- Anableddau (gan gynnwys Iechyd Meddwl ac Amhariad ar y Golwg)
- Cam-drin Domestig a Rhywiol
- Anfantais Economaidd
- Digartrefedd
- Cymunedau LHDT+
- Pobl Hŷn sy'n Wynebu Anfantais
- Carchar ac Adsefydlu
- Camddefnyddio a Dibyniaeth ar Sylweddau
- Pobl Ifanc sy'n Wynebu Anfantais
I gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais am grant, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Apply for a Grant | The Clothworkers' Foundation