Bydd pobl ledled Cymru yn elwa o grant newydd gyda'r nod o helpu pawb i ennill y sgiliau digidol sylfaenol, yr hyder a'r mynediad sydd eu hangen i gymryd rhan lawn yn y byd digidol.
Bydd Grant Cynhwysiant Digidol Cymru newydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi prosiectau sy'n helpu pobl i oresgyn rhwystrau i ddefnyddio technoleg ddigidol drwy wella sgiliau digidol sylfaenol, magu hyder, a sicrhau bod ganddynt yr offer a'r gefnogaeth sydd eu hangen ar lefel leol.
Gyda llawer o wasanaethau hanfodol bellach ar gael ar-lein yn bennaf, gall y rhai heb hyder digidol wynebu anfanteision yn ariannol, yn gymdeithasol ac yn eu lles cyffredinol. Nod y grant hwn yw sicrhau bod pawb yng Nghymru yn gallu mwynhau manteision technoleg digidol os ydynt yn dewis.
Mae'r grant wedi ei groesawu gan sefydliadau sy'n cefnogi pobl sy'n aml wedi'u heithrio o'r byd Digidol.
Mae'r grantiau'n agored i bob sector, gan gynnwys grwpiau cymunedol, mentrau cymdeithasol, sefydliadau'r trydydd sector, grwpiau ffydd, a chyrff cyhoeddus a phreifat. Mae dau fath o gyllid ar gael:
- Mae'r Grant Craidd yn cefnogi prosiectau hirdymor yn seiliedig ar anghenion lleol am hyd at dair blynedd, gan helpu sefydliadau i wneud cynhwysiant digidol yn rhan o fywyd bob dydd. Bydd tua £390,000 ar gael bob blwyddyn, gyda dyfarniadau arferol o tua £43,500.
- Mae'r Grant Arloesedd yn ariannu prosiectau tymor byr sy'n profi dulliau newydd a chreadigol o helpu pobl i ddefnyddio technoleg ddigidol, gyda £60,000 ar gael a dyfarniadau nodweddiadol o tua £15,000.
Mae'r grant yn adeiladu ar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi’i ddysgu drwy raglenni cynhwysiant digidol Cymru gyfan blaenorol a'r gwaith blaenllaw ar isafswm safon byw digidol.
Cafodd yr ymgynghoriad ei gynnal rhwng 17 Tachwedd 2025 a 09 Chwefror 2026. Mae canllawiau llawn a manylion cais ar gael yma: Grantiau newydd i helpu pobl i ddod yn hyderus wrth ddefnyddio technoleg ddigidol | LLYW.CYMRU ac Gwneud cais am Grant Cynhwysiant Digidol Cymru | LLYW.CYMRU.