Mae Llywodraeth y DU yn cyflwyno’r Grant Swyddi Ieuenctid.
Os ydych chi'n gyflogwr ac yn barod i gyflogi rhywun rhwng 18 a 24 oed sydd wedi bod ar Gredyd Cynhwysol am chwe mis neu fwy, gallech fod yn gymwys i gael Grant Swyddi Ieuenctid o £3,000 ar gyfer pob penodiad cymwys.
Rhaid i swyddi fod yn rhai sydd am o leiaf 25 awr yr wythnos a disgwylir iddynt bara o leiaf 4 mis i fod yn gymwys i gael Grant Swyddi Ieuenctid.
I ddysgu mwy am sut allai’r Grant eich helpu gyda chyllid i recriwtio person ifanc, lawrlwythwch y Pecyn Cymorth Grant Swyddi Ieuenctid.
Am fwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen hon: Creu Gweithlu’r Dyfodol.
Darllenwch dudalennau Recriwtio a Hyfforddi Busnes Cymru am gymorth ac arweiniad i weld ble mae’r bylchau sgiliau a’r meysydd datblygu yn eich busnes.
Oes gennych chi syniad busnes neu hustl ochr?
Os ydych yn 25 oed neu’n iau yng Nghymru, cewch ysbrydoliaeth gan entrepreneuriaid llwyddiannus, a throsi eich syniad yn realiti gyda chyngor, gweithdai a chymorth: Syniadau Mawr Cymru | Big Ideas Wales.