Newyddion

Grant refeniw newydd: Cymorth Lleol Estynedig i’r Sector Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd

Exhibition at Caernarfon castle

Cyllid i helpu amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd gyflawni uchelgais Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant.

Mae'r grant hwn yn cynnig cyllid refeniw i fynd i'r afael â'r dyheadau canlynol:

  • sicrhau bod diwylliant yn gynhwysol, hygyrch ac amrywiol
  • adlewyrchu anghenion a dyheadau plant a phobl ifanc
  • gofalu am ein casgliadau a'n hasedau
  • cynnal arfer digidol da
  • cynnal datblygu cynaliadwy, cyflawni net-sero, a mynd i'r afael â'r argyfyngau yn y hinsawdd a natur.

Darllenwch y canllawiau: Blaenoriaethau ar gyfer diwylliant yn cefnogi'r sector lleol a gynhelir ar gyfer amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd: canllawiau.

Ymgeisiwch drwy ddefnyddio’r ffurflen gais: Blaenoriaethau ar gyfer diwylliant yn cefnogi'r sector lleol a gynhelir ar gyfer amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd: ffurflen gais.

Mae ceisiadau'n cau am 10am ar 29 Medi 2025.

Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen hon: Datganiad Ysgrifenedig: Lansio'r Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant - Cynllun Grant Cymorth Lleol Estynedig i’r Sector Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd (22 Awst 2025) | LLYW.CYMRU


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.