Newyddion

Grant Cefnogi Cymunedau Gwledig

Machynlleth, Cymru

Mae rhaglen grant 'Cefnogi Cymunedau Gwledig' y Gronfa Cefn Gwlad Frenhinol bellach ar agor ar gyfer datganiadau o ddiddordeb.

Bydd y cyllid gwahaniaethol newydd hwn yn cefnogi mentrau trawsnewidiol, dan arweiniad y gymuned ledled y DU, gan ddatgloi'r potensial enfawr ar gyfer newid er gwell mewn cymunedau gwledig. Y nod yw cefnogi atebion arloesol a fydd yn "grymuso, yn hytrach na chynnal" cymunedau, gan ysbrydoli newid ac annog bywiogrwydd economaidd.

Gall sefydliadau cymunedol, nid unigolion na busnesau preifat, wneud cais am grantiau o hyd at £25,000 dros gyfnod o 24 mis i ddarparu gweithgareddau ar themâu:

  • Cadw pobl ifanc yng nghefn gwlad
  • Grymuso cymunedau gwledig
  • Cynyddu cynaliadwyedd amgylcheddol
  • Creu gwydnwch yn wyneb argyfyngau mewn ardaloedd gwledig.

Dyddiadau allweddol:

  • 21 Chwefror 2025– Dyddiad cau ar gyfer Datganiadau o Ddiddordeb
  • 22 Mawrth 2025 – Gwahoddir sefydliadau ar y rhestr fer i gyflwyno cais llawn
  • 19 Ebrill 2025Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau llawn.

I gael mwy o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Supporting Rural Communities - The Royal Countryside Fund


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.