
Mae dyn byddar ac anabl o Bowys sy'n cael trafferth heb fynediad band eang a dim signal symudol yn ei gartref yn dweud bod ei gysylltedd digidol wedi cael ei drawsnewid diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru.
Canfu Mark, sy'n byw mewn ardal wledig iawn ym Mhowys, fod mynediad at fand eang da yn dod yn fwyfwy pwysig ar gyfer anghenion cyfathrebu a diogelwch.
Creodd y diffyg cysylltedd rwystrau sylweddol i waith a bywyd pob dydd Mark. Profodd anawsterau mawr yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain gyda dehonglwyr yn ystod galwadau fideo ar gyfer gwaith, ac roedd mynediad at adloniant ar-lein fel ffrydio rhaglenni teledu a ffilmiau yn amhosibl.
Ar ôl clywed bod cymdogion yn ei gymuned wedi defnyddio cynllun grant Allwedd Band Eang Cymru (ABC) Llywodraeth Cymru yn llwyddiannus, ymchwiliodd Mark i'w opsiynau a phenderfynu ar ddatrysiad band eang lloeren.
I ddarganfod mwy am gynllun Allwedd Band Eang Cymru Llywodraeth Cymru a'r atebion sydd ar gael i chi ar gyfer cael band eang cyflymach ewch i Band eang yng Nghymru | llyw.cymru