Bydd tafarndai, bwytai, caffis, bariau, clybiau trwyddedig, gwestai, campfeydd, sinemâu a llawer o leoliadau poblogaidd eraill ar y stryd fawr ledled Cymru yn gweld eu biliau ardrethi yn gostwng 30% wrth i Lywodraeth Cymru gefnogi'r busnesau y mae pobl yn dibynnu arnyn nhw.
Bydd tafarndai, bwytai, caffis, bariau, clybiau trwyddedig, gwestai, campfeydd, sinemâu a llawer o leoliadau poblogaidd eraill ar y stryd fawr ledled Cymru yn gweld eu biliau ardrethi yn gostwng 30% wrth i Lywodraeth Cymru gefnogi'r busnesau y mae pobl yn dibynnu arnyn nhw.
Mae'r cam hwn yn rhan o ymrwymiad maniffesto Llywodraeth Cymru i ailgydbwyso'r system ardrethi busnes a rhoi bywyd newydd i ganol trefi.
Bydd y cymorth parhaol hwn yn fwy na'r rhyddhad dros dro o 15% sydd ar gael ar hyn o bryd i fusnesau lletygarwch bwyd a diod, gan roi mwy o sicrwydd i fusnesau gynllunio a buddsoddi ar gyfer y dyfodol.
Ymhlith y busnesau a fydd yn elwa mae:
- lleoliadau lletygarwch bwyd a diod: tafarndai, bwytai, caffis, bariau, cyrtiau bwyd, clybiau trwyddedig a lleoliadau cerddoriaeth fyw
- llety ymwelwyr: gwestai, tai llety a hosteli
- lleoliadau hamdden: sinemâu, theatrau, llyfrgelloedd, amgueddfeydd a champfeydd
Bydd eiddo bach a chanolig cymwys sydd â gwerth ardrethol o dan £51,000 yn elwa ar y cymorth parhaol hwn. Bydd siopau manwerthu hefyd yn parhau i gael budd o'r cymorth hwn, a fydd yn adeiladu ar y lluosydd is sy'n weithredol eleni.
Bydd cynnydd bach yn y lluosydd uwch, sy'n berthnasol i'r eiddo gwerth uchaf yng Nghymru, yn ariannu'r cymorth hwn, heb leihau'r cyfraniad cyffredinol y mae ardrethi busnes yn ei wneud tuag at ariannu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Bydd rheoliadau yn cael eu cyflwyno yn yr hydref ac, yn amodol ar gymeradwyaeth y Senedd, byddant yn dod i rym o 1 Ebrill 2027 ymlaen.
Bydd union werthoedd yr holl luosyddion ar gyfer 2027-28 yn cael eu cadarnhau fel rhan o'r paratoadau ar gyfer y gyllideb, yn dilyn Cyllideb yr Hydref Llywodraeth y DU.
Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: Gostyngiad o 30% yn yr ardrethi busnes i leoliadau lletygarwch a hamdden ar y stryd fawr | LLYW.CYMRU..