Dros yr haf, rhwng 25 Mehefin 2026 a 1 Medi 2026, bydd Llywodraeth y DU yn gostwng cyfraddau TAW ar brydau plant mewn bwytai ac ar weithgareddau hamdden i'r teulu o 20% i 5%.
Mae Great British Summer Savings yn gynllun dros dro sydd wedi'i dargedu i leihau cost prydau plant mewn caffis a bwytai, cost tocynnau plant ar gyfer theatrau a sinemâu, yn ogystal â chost tocynnau i bawb ar gyfer atyniadau megis chwarae meddal, canolfannau antur, a pharciau thema.
Gall busnesau ddysgu mwy am hyn ar GOV.UK: Revenue and Customs Brief 5 (2026): Temporary reduced rate of VAT for children’s meals, tickets and family attractions.