Newyddion

Gorffennaf Di-blastig

person using a cotton shopping bag for grocery shopping

Ymunwch â miliynau o bobl sy'n lleihau eu gwastraff plastig.

Mae Gorffennaf Di-blastig yn fudiad byd-eang sy'n helpu miliynau o bobl i fod yn rhan o'r ateb i lygredd plastig - er mwyn i ni allu cael strydoedd, cefnforoedd a chymunedau hardd glanach. A wnewch chi gymryd rhan yng Ngorffennaf Di-blastig trwy ddewis gwrthod plastigau untro?

Mae Gorffennaf Di-blastig yn darparu adnoddau a syniadau i'ch helpu chi (a miliynau o bobl eraill ledled y byd) i leihau gwastraff plastig untro bob dydd yn y cartref, yn y gwaith, yn yr ysgol, a hyd yn oed yn eich caffi lleol.

Eisiau awgrymiadau sut y gallwch chi leihau gwastraff plastig? Y newyddion da yw y gall unrhyw un gymryd rhan. Gallwch chi ddechrau'n fach neu herio’ch hun go iawn!

Beth am gael eich ysbrydoli drwy ddefnyddio'r opsiynau isod:

Mae'r Addewid Twf Gwyrdd yn helpu busnesau Cymru i gymryd camau rhagweithiol tuag at wella eu cynaliadwyedd, gan ddangos eu heffaith gadarnhaol ar y bobl a'r llefydd o'u cwmpas, yn ogystal ag ymuno â chymuned gynyddol o sefydliadau blaengar sy'n helpu Cymru i drawsnewid i ddyfodol carbon isel. Cofrestrwch yn Addewid Twf Gwyrdd | Busnes Cymru.

Mae nifer o blastigau untro wedi cael eu gwahardd rhag cael eu cyflenwi yng Nghymru o 30 Hydref 2023, darllenwch y canllawiau ar Llyw.Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.