
Gwellwch eich sgiliau digidol i helpu i dyfu eich busnes neu yrfa gyda hyfforddiant personol, gweithdai a sesiynau mentora am ddim gan Google UK.
Cynhelir y digwyddiad yn Venue Cymru, Llandudno ar 27 Mehefin 2025 rhwng 10am a 3pm.
Bydd hyfforddwyr Google Digital Garage ar gael i'ch helpu i dyfu'ch busnes ar-lein a dod o hyd i gwsmeriaid newydd.
Bydd sesiynau amrywiol yn cael eu cynnal drwy'r dydd, ochr yn ochr â chyfleoedd rhwydweithio rhyngweithiol. Gallwch hefyd archebu sesiynau mentora preifat gyda hyfforddwyr digidol Google drwy gydol y dydd i ganolbwyntio ar nodau personol ar gyfer twf eich busnes.
Byddwch yn gadael y digwyddiad gyda dealltwriaeth glir o AI, sgiliau digidol newydd a sut i weithredu'r dulliau hyn i helpu eich busnes i ffynnu.
Bydd cinio am ddim ar gael.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth ac i archebu eich lle: Google Digital Garage: Llandudno Tickets, Fri 27 Jun 2025 at 10:00 | Eventbrite