
Bellach bydd yn ofynnol yn gyfreithiol i gwmnïau sy'n cyflogi pobl yn yr economi gìg gynnal gwiriadau sy'n cadarnhau bod unrhyw un sy'n gweithio yn eu henw yn gymwys i weithio yn y DU, gan ddod â nhw dan yr un drefn â chyflogwyr eraill. Mae'r gwiriadau hanfodol hyn, sy'n cymryd munudau yn unig i'w cwblhau, yn cadarnhau statws mewnfudo rhywun ac yn caniatáu iddynt weithio yn gyfreithlon yn y DU.
Mae hyn yn golygu, am y tro cyntaf, y bydd gwiriadau cyflogaeth yn cael eu hymestyn i gynnwys busnesau sy'n cyflogi gweithwyr yr economi gìg a gweithwyr dim oriau mewn sectorau fel adeiladu, danfon bwyd, salonau harddwch a gwasanaethau negeswyr.
Ar hyn o bryd, nid yw'n ofynnol yn gyfreithiol i filoedd o gwmnïau sy'n defnyddio'r trefniadau hyn wirio statws y gweithwyr hyn.
Pan fydd busnesau'n methu â chynnal y gwiriadau hyn, byddant yn wynebu cosbau mawr sydd eisoes ar waith ar gyfer y rhai sy'n cyflogi gweithwyr anghyfreithlon mewn rolau traddodiadol, gan gynnwys dirwyon o hyd at £60,000 y gweithiwr, cau busnesau, anghymhwyso cyfarwyddwyr a dedfrydau carchar posibl o hyd at 5 mlynedd.
Am ragor o wybodaeth dewiswch y dolenni canlynol: Crackdown on illegal working and rogue employers in 'gig economy' - GOV.UK a Right to work checks: an employer's guide - GOV.UK