Mae gofod yn golygu ‘lle’ yn y Gymraeg a gofod3 yw ein gofod ni ar gyfer y sector gwirfoddol yng Nghymru.
Mae’r cofrestru ar agor nawr am ddiwrnod bywiog o siaradwyr, dosbarthiadau meistr, trafodaethau panel a gweithdai rhyngweithiol, a fydd yn cael ei gynnal ar 17 Mehefin 2026 yn Stadiwm Dinas Caerdydd. P’una ydych chi’n gobeithio dysgu rhywbeth newydd, rhannu syniadau neu wneud cysylltiadau ystyrlon, mae rhywbeth yma i chi.
Fel bob tro arall, mae gofod3 am ddim i’w fynychu.
Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: gofod3 – rhaglen digwyddiadau’n fyw nawr! - WCVA.
Mae mwy a mwy o bobl yn gwneud pethau i gefnogi eu cymuned leol ac maen nhw eisiau gweld fod y busnesau y maen nhw’n ymwneud â nhw yn gwneud yr un fath.
Mae gweithwyr sy’n gwirfoddoli yn aml yn dysgu sgiliau newydd hefyd, yn enwedig mewn meysydd fel rheoli amser, cyfathrebu, dylanwadu ac arwain, gan ddod â’r rhain yn ôl i’r gweithle. I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Gweithio gyda’ch cymuned leol | Drupal (gov.wales).