Newyddion

Gofal plant a ariennir i bob plentyn 2 oed mewn 86% o awdurdodau lleol

Child playing with building blocks

Mae Llywodraeth Cymru wedi ehangu gofal plant a ariennir i bob plentyn 2 oed o 3 awdurdod lleol yn unig i 19 erbyn diwedd y mis hwn (Tachwedd 2026). Mae'r 22 awdurdod ar y trywydd iawn i fedru cynnig hyn erbyn diwedd mis Mawrth 2027.

Mae hyn yn bosibl oherwydd buddsoddiad Llywodraeth Cymru o £55 miliwn mewn gofal plant eleni, sy'n helpu i gyflymu'r broses o gyflwyno gofal plant a ariennir i fwy o blant 2 oed ledled Cymru.

Cyflwyno 12.5 awr o ofal plant wedi'i ariannu yr wythnos ar gyfer pob plentyn 2 oed yw cam cyntaf rhaglen Llywodraeth Cymru i ddarparu cynnig gofal plant i bob plentyn rhwng naw mis a phedair oed. Wrth i'r rhaglen ddatblygu, bydd y cynnig ar gyfer plant 2 oed yn cynyddu i 20 awr yr wythnos am 48 wythnos o'r flwyddyn cyn cael ei gynnig i blant iau.

Am ragor o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen hon: Gofal plant a ariennir i bob plentyn 2 oed mewn 86% o awdurdodau lleol | LLYW.CYMRU. 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.