Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Alma Economics i ymchwilio i ba fentrau datgarboneiddio sy’n cael eu cynnal ar hyn o brydgan fanwerthwyr bach, neu gan fanwerthwyr mawr y gellid eu gweithredu gan fanwerthwyr bach, yng Nghymru.
Er enghraifft, byddai mentrau fel siopau sy’n derbyn jîns dieisiau i’w hailgylchu, gosod systemau oeri sy’n arbed ynni, neu leihau allyriadau danfon i gyd yn enghreifftiau perthnasol.
Bydd allbynnau’r gwaith yn llywio a chefnogi gwaith polisi i hyrwyddo mentrau datgarboneiddio a allai fod yn ymarferol ymhlith manwerthwyr llai.
Mae’r Alwad am Dystiolaeth ar agor i’r holl fanwerthwyr, sefydliadau manwerthu, a chynrychiolwyr masnach ledled Cymru.
Mae gennym ddiddordeb mewn mentrau datgarboneiddio a gyflwynwyd gan fanwerthwyr i:
- Leihau eu hôl troed carbon eu hunain – e.e. cynhyrchu eu hynni adnewyddadwy eu hunain.
- Lleihau ôl troed carbon eu cwsmeriaid – e.e. cynnig cynlluniau ailgylchu, ailddefnyddio ac atgyweirio.
Bydd eich tystiolaeth yn ein helpu i:
- Gasglu gwybodaeth am weithgareddau presennol a arweinir gan fanwerthwyr.
- Deall yr hyn sy’n galluogi ac yn rhwystro gweithredu’r mentrau hyn.
- Cryfhau’r sylfaen dystiolaeth i gefnogi polisi Llywodraeth Cymru ar ddatgarboneiddio manwerthu yn y dyfodol.
Amser cwblhau: Hyd at 25 munud.
Terfyn amser ar gyfer cyflwyno: 5 Rhagfyr 2025, 23:59.
Dolen i’r arolwg: Galwad am Dystiolaeth: Mentrau Datgarboneiddio Manwerthu yng Nghymru .