Fel cyflogwr yng Nghymru, rydych chi’n chwarae rhan bwysig wrth gadw’ch gweithlu’n iach a helpu i leihau lledaeniad y ffliw.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) wedi datblygu ystod o adnoddau cyfathrebu i helpu cyflogwyr i hyrwyddo brechu rhag y ffliw yn y gweithle. Trwy annog staff cymwys i gael eu brechu, gallwch chi helpu i amddiffyn eich gweithlu, lleihau absenoldebau oherwydd salwch a hyrwyddo iechyd y cyhoedd ledled Cymru.
Gallwch gael mynediad at yr adnoddau ar wefan ICC neu eu lawrlwytho o blatfform Brandkit.