Newyddion

Galw ar bob cwmni Cadwyn Gyflenwi Cerbydau Trydan!

Missing media item.

Mae Fforwm Modurol Cymru wedi cychwyn ar brosiect uchelgeisiol ar ran Llywodraeth Cymru i amlygu a mapio'r cwmnïau hynny yng Nghymru sydd ar hyn o bryd yn gweithredu, neu a allai weithredu, yn y farchnad Cerbydau Allyriadau Sero Net newydd. Rydym yn chwilio am unrhyw gwmnïau sy'n cyflenwi'r farchnad ar hyn o bryd, neu sydd â'r gallu, yr hyblygrwydd a'r weledigaeth i newid eu proses a chymryd rhan mewn cadwyni cyflenwi cerbydau trydan (neu hydrogen) yn y dyfodol. 

Efallai fod eich cwmni eisoes yn cyflenwi'r farchnad peiriannau hylosgi mewnol neu efallai nad yw'n ymwneud â'r sector modurol o gwbl, ond mae gennych y cymhwysedd a'r gallu i gyflenwi'r dechnoleg batri, electroneg pŵer, modur trydan, neu unrhyw ochr arall o'r diwydiant cynyddol hwn. 

Ein nod yn y tymor hir yw dod â chwmnïau at ei gilydd yng Nghymru sy'n gallu gweithio gyda'i gilydd, gan adeiladu clystyrau o fusnesau sydd â buddiannau tebyg yn y sector symudedd yn y dyfodol, un y gallwn ei farchnata'n rhyngwladol a helpu i gryfhau'r sector i ddiogelu swyddi. 

Os ydych chi'n meddwl y dylai eich busnes fod yn rhan o'r dyfodol cyffrous hwn, cysylltwch â info@welshautomotiveforum.co.uk
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.