Rydyn ni'n annog pobl Cymru i edrych i weld pa gymorth ariannol y gallen nhw ei hawlio, gan fod mwy na £1 biliwn o fudd-daliadau yn mynd heb eu hawlio bob blwyddyn yng Nghymru.
Gyda biliau ynni ar fin cyrraedd eu huchaf ers tair blynedd y gaeaf hwn, mae'r ymgyrch Hawliwch yr Hyn sy'n Ddyledus i Chi gan Lywodraeth Cymru'n annog pobl i gael cyngor rhad ac am ddim cyn i'r pwysau ariannol gynyddu.
Gallai pobl fod â hawl i gymorth ychwanegol p'un a ydyn nhw'n gyflogedig, yn ddi-waith, yn astudio, neu eisoes yn hawlio budd-daliadau.
Mae'r ymgyrch yn cyfeirio pobl at linell gymorth Advicelink Cymru - gwasanaeth proffesiynol a chyfrinachol rhad ac am ddim a ariennir gan Lywodraeth Cymru.
Mae cynghorwyr hyfforddedig yn edrych yn fanwl ar sefyllfa pobl dros y ffôn ac yn eu helpu i ddeall beth y mae ganddyn nhw'r hawl iddo. Gallen nhw hefyd gefnogi pobl drwy gydol y broses hawlio os oes angen, gan gynnwys eu helpu i lenwi ffurflenni.
Gall y gwasanaeth gynghori ar ddyledion, rhent a biliau, costau llety prifysgol, a chostau gofal plant.
Am ragor o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen hon: Gallai pobl Cymru hawlio mwy o arian i helpu gyda chostau byw | LLYW.CYMRU.