
Mae adran Arlwyo Cyngor Conwy wedi cynnal cynllun peilot gan Economi Sylfaenol a Busnes Cymru Llywodraeth Cymru i annog mwy o awdurdodau lleol i ddefnyddio cyflenwyr Cymreig wrth lunio bwydlenni ysgolion cynradd.
Yn dilyn astudiaeth beilot oedd yn canolbwyntio ar lysiau gwyrdd fel brocoli, mae'r sefydliadau'n galw ar dyfwyr yn y rhanbarth i ateb y galw ac edrych am ffyrdd i gyflenwi cynnyrch ffres i ysgolion.
Dywed yr ymgynghorydd Dafydd Aled Williams, cyn-Reolwr Iechyd a Llesiant Conwy, fod partneriaethau wedi'u ffurfio yn sgil cynllun Prydau Ysgol Am Ddim Cyffredinol i Ysgolion Cynradd Llywodraeth Cymru, gydag awdurdodau lleol yn canolbwyntio ar iechyd, cynaliadwyedd a chefnogi teuluoedd sy'n wynebu heriau costau byw.
Yn gynharach eleni, cynhaliodd Busnes Cymru ddigwyddiadau rhithwir ar Werth Cymdeithasol yn y Sector Cyhoeddus a chadwyni cyflenwi sector cyhoeddus Cymru, yn ogystal â phrosesau tendro, caffael a fframweithiau: Tendro a'r gadwyn gyflenwi | Busnes Cymru
Dywed Rheolwr Prosiect Bwyd Menter Môn, David Wylie, fod taith gyffrous o’u blaenau a “chyfleoedd” i dyfwyr yng Ngogledd Cymru.
Mae enghreifftiau o brosiectau diweddar yn cynnwys cynllun Bwyd Cymreig i Ysgolion Larder Cymru, a gefnogir gan Dîm Economi Sylfaenol Llywodraeth Cymru, sy'n hyrwyddo cynnyrch a chynhyrchwyr Cymreig o bob cwr o Gymru ac yn tynnu sylw at sut bydd ysgolion yn cwtogi eu cadwyni cyflenwi trwy brynu ganddynt, gan annog cynaliadwyedd a lleihau allyriadau carbon.
Am ragor o wybodaeth, anfonwch e-bost at david@mentermon.com.
Llywodraeth Cymru sy’n ariannu Busnes Cymru. I gael rhagor o fanylion a chymorth i helpu eich busnes chi i dyfu, neu i siarad ag ymgynghorydd arbenigol, cysylltwch â Busnes Cymru. Ewch i Hafan | Busnes Cymru neu ffoniwch 03000 6 03000. Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.