Newyddion

Gall llifogydd dŵr wyneb effeithio ar gymunedau drwy gydol y flwyddyn

Heavy rain and blue umbrella

Mae llifogydd dŵr wyneb neu fflachlifoedd yn digwydd pan nad yw dŵr glaw yn draenio i ffwrdd drwy’r systemau draenio arferol nac yn suddo i’r ddaear ond yn gorwedd ar y ddaear neu’n llifo drosti yn lle hynny. Gall hyn fod oherwydd dwyster a maint y glawiad, oherwydd bod y ddaear eisoes yn ddirlawn (yn llawn dŵr), neu oherwydd bod glaw yn disgyn ar arwynebau anathraidd, ee concrit.

Mae llifogydd dŵr wyneb yn dueddol o ddigwydd mewn ardaloedd mwy trefol fel trefi a dinasoedd, lle mae mwy o goncrit neu arwynebau caled eraill, gan na allant amsugno dŵr, tra bod glaswellt a phridd yn gallu gwneud hynny. Gall hefyd ddigwydd yn ystod cyfnodau o sychder, pan fydd y pridd wedi’i gywasgu ac yn methu amsugno dŵr.

Nid yw gwasanaeth rhybuddio am lifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru, sydd am ddim, yn rhybuddio am ddŵr wyneb oherwydd gall y math hwn o lifogydd ddigwydd yn gyflym iawn ac yn aml yn lleol iawn, sy’n golygu nad oes amser i gyhoeddi negeseuon rhybudd ymlaen llaw.

Fodd bynnag, mae sawl ffordd o ddysgu mwy am y risg hon:

Gall pob busnes gymryd camau syml i wneud yn siŵr eu bod yn barod am dywydd gwael. Er enghraifft:

  • lluniwch gynllun llifogydd
  • gosod systemau diogelu rhag llifogydd
  • gwneud yn siŵr fod eich polisi yswiriant yn cynnwys difrod y bydd tywydd yn ei achosi i’ch eiddo -
  • gwnewch yn siŵr bod gennych chi yswiriant addas, mae’r Association of British Insurers yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol. Mae yswiriant eiddo masnachol yn hynod berthnasol
  • cael cynllun parhad busnes
  • gwneud copïau o'ch dogfennau yswiriant a gwybodaeth gyswllt bwysig
  • paratoi bag sy’n cynnwys eitemau hanfodol y gallwch gael gafael arno’n hawdd petai rhaid i’r adeilad gael ei wagio

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.