
Oes gennych syniad clyfar neu arloesedd i wella gofal iechyd yng Nghymru?
Cydweithrediad rhanbarthol rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Phrifysgol Abertawe yw Fforwm Arloesedd ARCH. Llwyfan i gysylltu arloeswyr â arbenigwyr meddygol, academaidd a diwydiannol, wedi’ anelu at gyflymu arloesedd ar draws y sector iechyd a gofal yng Ne Orllewin Cymru.
Mae’r alwad wedi’ themau i ddenu cyflwyniadau wrth feysydd gwasanaeth penodol ac mae’n chwilio am arloesedd sy'n ceisio ymdrin â'r themaau canlynol:
- Iechyd a Lles y Boblogaeth
- Gofal Llygaid
- Diagnosis
- Arall
Gall prosiectau arloesol gael eu cyflwyno gan academyddion, GIG, trydydd sector, neu grwpiau diwydiant. Gall prosiectau ffurfio o amgylch arloesi gwasanaethau, arloesi cymdeithasol, trosglwyddo gwybodaeth, iechyd digidol neu dechnoleg iechyd. Gall prosiectau wneud cais drwy lenwi ffurflen gais syml sy'n manylu ar natur y prosiect, canlyniad arfaethedig, ac effaith.
Bydd ceisiadau llwyddiannus yn cael eu dewis i gyflwyno i banel o arbenigwyr a byddant yn cynnwys trafodaeth, holi ac ateb ac adborth. Meddyliwch 'Dragon's Den' ond heb y Dreigiau. Mae'r Fforwm yn lle diogel i feithrin meddwl arloesol ac ymestyn ffiniau. Mae'r holl adborth yn adeiladol ac yn cael ei ddarparu yng ngwir ysbryd cydweithredu rhanbarthol.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Fforwm Arloesi ARCH
Gall arloesi helpu eich busnes i fod yn fwy cystadleuol, cynyddu gwerthiant a chyrraedd marchnadoedd newydd: Datblygu syniadau ar gyfer busnes, cynhyrchion neu wasanaethau | Busnes Cymru