Mae'r Swyddfa Eiddo Deallusol (IPO) yn cynyddu ffioedd ar gyfer patentau, nodau masnach a dyluniadau o 1 Ebrill 2026, yn amodol ar gymeradwyaeth seneddol.
Bydd ffioedd yn cynyddu 25% ar gyfartaledd. Er enghraifft, mae chwiliad patent yn codi o £150 i £200 a chais am nod masnach o £170 i £205.
Mae’r IPO wedi cyhoeddi canllawiau i helpu cwsmeriaid y gallai eu ffioedd fod yn ddyledus tua’r adeg y bydd y newidiadau arfaethedig yn cael eu gwneud.
Am ragor o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol: Ffioedd y Swyddfa Eiddo Deallusol i gynyddu o fis Ebrill 2026 - GOV.UK.
Gall arloesi helpu eich sefydliad i ddod yn fwy cystadleuol, cynyddu gwerthiant ac darganfod farchnadoedd newydd. Yma gallwch ddod o hyd i'r hyn o gyllid a chefnogaeth sydd ar gael i'ch helpu i arloesi: Datblygu syniadau ar gyfer busnes, cynhyrchion neu wasanaethau | Busnes Cymru.