
Mae pum ffilm a wnaed yng Nghymru wedi cael llwyddiant rhyfeddol mewn gwyliau ffilm rhyngwladol eleni, gan dystio i enw da cynyddol Cymru fel cyrchfan o'r radd flaenaf ar gyfer ffilmio.
Bydd y ffilm Brides, sy'n adrodd hanes am dyfu'n hŷn a gyd-gynhyrchwyd gan ieie Productions o Gaerdydd, yn agor yn sinemâu'r DU heddiw [dydd Gwener, Medi 26] yn dilyn clod yn ystod gŵyl Sundance, Gŵyl Ffilm Ryngwladol Toronto Next Wave, FilmFest München a Gŵyl Ffilm Ryngwladol Caeredin. Dewiswyd y ffilm, sy'n adrodd stori dau berson yn eu harddegau sydd wedi cael llond bol ar eu bywydau cythryblus yn y DU ac sy'n gadael ar daith sy'n newid eu bywydau i ffin Syria, hefyd ar gyfer arddangosfa fawreddog 'GREAT 8' y BFI a'r Cyngor Prydeinig ym Marchnad Cannes 2024.
Dangoswyd y ffilm The Man in My Basement, gyda Willem Dafoe a Corey Hawkins yn serennu, am y tro cyntaf yng Ngŵyl Ffilm Ryngwladol Toronto 2025 ar ôl cael ei ffilmio ar draws lleoliadau yn Ne Cymru gan gynnwys Caerdydd, Sir Gaerfyrddin ac Abertawe. Rhyddhawyd yr addasiad o nofel Walter Mosley yn sinemâu'r DU yr wythnos diwethaf a bydd ar gael i'w ffrydio ar 26 Medi 2025.
Drwy gynhyrchu'r ddwy ffilm yng Nghymru sicrhawyd o leiaf 130 o swyddi yma a 14 lleoliad hyfforddeion/cysgodol.
Mae Madfabulous yn ffilm Gymreig arall sydd wedi cael ei dewis ar gyfer y BFI a'r Cyngor Prydeinig 'GREAT 8' ac fe'i cynhwyswyd ar restr 2025 ym Marchnad Cannes. Gyda Callum Scott Howells yn serennu ac wedi'i ffilmio'n gyfan gwbl yng Ngogledd Cymru, mae'n adrodd hanes Henry Paget, Pumed Marcwis mawreddog a lliwgar Ynys Môn.
Wrth edrych ymlaen at Ŵyl Ffilm Llundain ym mis Hydref, bydd dau gynhyrchiad Cymreig arall yn cael cryn sylw. Cafodd H is for Hawk, gyda Claire Foy a Brendan Gleeson, ei dangos am y tro cyntaf yng Ngŵyl Ffilm Telluride 2025 yn yr Unol Daleithiau, ac mae'n adrodd stori wir bywyd Helen MacDonald, gan ddangos y berthynas rhwng menyw a gwalch yn dilyn marwolaeth ei thad. Cafodd ei ffilmio yng Nghaerdydd, ac fe ariannwyd y cynhyrchiad gan Cymru Greadigol.
Bydd Anemone hefyd yn cael ei dangos am y tro cyntaf yng Ngŵyl Ffilm Llundain. Mae'r ffilm yn archwilio'r perthnasoedd cymhleth rhwng tadau a meibion, gyda Daniel Day-Lewis a Samantha Morton yn serennu. Cynhyrchydd y ffilm yw Brad Pitt. Wedi'i ffilmio yn Stiwdios Aria ar Ynys Môn ac ar draws Gogledd Cymru, dyma gynnig cyntaf Ronan Day-Lewis fel cyfarwyddwr, ac ef a gyd-ysgrifennodd y sgript gyda'i dad.
Derbyniodd bedwar o'r cynyrchiadau hyn gyllid gan Cymru Greadigol drwy gronfa ffilmiau nodwedd Ffilm Cymru Wales, sy'n buddsoddi mewn awduron, cyfarwyddwyr a chynhyrchwyr a anwyd yng Nghymru neu sy'n byw yng Nghymru. Cafodd y pumed, Anemone, ei ffilmio yn stiwdios Aria ar Ynys Môn, sydd wedi derbyn cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol.
Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen hon:Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen hon: Ffilmiau o Gymru yn serennu o Sundance i Cannes | Welsh Govenment News
Mae Cymru Greadigol yn asiantaeth datblygu economaidd Llywodraeth Cymru i gefnogi’r diwydiannau creadigol yng Nghymru.
Llun: Brides still © Ffilm Cymru Wales