Newyddion

Ffermwyr o Gymru i dderbyn dros £1 biliwn mewn sicrwydd cyllid amlflwydd

Hay Bales

Bydd ffermwyr Cymru yn derbyn dros £1 biliwn o gyllid ar draws y tymor hwn yn y Senedd i gefnogi amaethyddiaeth gynaliadwy, gan roi'r sicrwydd hirdymor sydd ei angen ar y sector i gynllunio a buddsoddi yn hyderus.

Gwnaeth Gweinidog y Cabinet dros Wydnwch a Chynaliadwyedd Gwledig, Llyr Gruffydd, y cyhoeddiad yn Sioe Frenhinol Cymru, ei gyhoeddiad cyntaf fel Gweinidog Gwydnwch a Chynaliadwyedd Gwledig.

Mae'r ymrwymiad yn darparu £340 miliwn y flwyddyn am dair blynedd hyd at fis Mawrth 2030 ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, gan gynnwys £238 miliwn gwarantedig y flwyddyn ar gyfer yr haen Gyffredinol a £102 miliwn ar gyfer darparu'r Haenau Dewisol a Chydweithredol. 

Mae'r symudiad yn dod â'r model cyllido o flwyddyn i flwyddyn i ben sydd wedi gwneud cynllunio hirdymor yn anodd i fusnesau ffermio.

I ddarllen y datganiad llawn dewisiwch y ddolen ganlynol: Ffermwyr o Gymru i dderbyn dros £1 biliwn mewn sicrwydd cyllid amlflwydd | LLYW.CYMRU.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.