
Mae'r rhai sy'n dal i fod arnyn nhw arian cynllun Covid i'r pwrs cyhoeddus wedi cael cyfnod cyfyngedig i'w dalu'n ôl cyn bod sancsiynau llymach yn cael eu rhoi ar waith.
Bydd cynllun ad-dalu gwirfoddol yn rhoi ffenestr 'dim cwestiynau’ i dderbynwyr cynllun Covid i ad-dalu'r arian nad oedd ganddynt hawl iddo neu nad oedd ei angen arnynt.
Daw'r symudiad wrth i lywodraeth y DU barhau i wneud popeth o fewn ei gallu i adennill arian a gollwyd i dwyll Covid.
Gallai unigolion nad ydynt yn cymryd y cyfle olaf hwn i ad-dalu unrhyw arian sy'n ddyledus gael eu herlyn pan fydd y llywodraeth yn derbyn pwerau ymchwilio ychwanegol y flwyddyn nesaf.
Mae gwefan adrodd twyll Covid hefyd yn cael ei lansio i ganiatáu i aelodau'r cyhoedd adrodd am dwyll a amheuir.
Gallai newidiadau i'r ffordd y mae anghymhwyso cyfarwyddwyr yn gweithio hefyd weld mwy o bobl yn cael eu hatal rhag bod yn rhan o fusnesau, neu wynebu gorchmynion iawndal.
Mae pob cynllun Covid, gan gynnwys benthyciadau, grantiau, nawdd cymdeithasol a buddion treth yn dod o dan y cynllun ad-dalu gwirfoddol.
Mae sut rydych chi'n ad-dalu yn dibynnu ar y cynllun a ddefnyddiwyd gennych:
- Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws (CJRS)
- Cynllun Cymhorthdal Incwm Hunangyflogaeth (SEISS)
- Cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan (e-bost eohovoluntaryrepayments@hmrc.gov.uk)
- Cronfa Adferiad Diwylliannol (e-bost compliance@dcms.gov.uk
- Grantiau cymorth busnes (e-bost businessgrantsassurance@businessandtrade.gov.uk)
- Grantiau gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol (e-bost GeneralGrantQueries@dhsc.gov.uk)
- Cynlluniau Gwarant Benthyciadau Busnes COVID-19, e.e. Benthyciad Bounce Back (cysylltwch â'ch benthyciwr yn uniongyrchol)
Mae hyn yn ymwneud yn benodol â chynlluniau cymorth Covid Llywodraeth y DU.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Covid repayment window opens - GOV.UK