
Mae angen i fasnachwyr fod yn ymwybodol o drefniadau newydd o dan Fframwaith Windsor, cytundeb rhwng y Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd.
Yn amodol ar y gweithdrefnau perthnasol, bwriedir i'r trefniadau newydd ddod i rym o 1 Mai 2025.
Ar gyfer symud parseli o fusnes i fusnes (B2B), mae prosesau newydd y bydd angen i chi eu dilyn i sicrhau bod nwyddau yn parhau i symud yn gyflym ac yn llyfn. Ar gyfer symudiadau cludo llwythi presennol, bydd prosesau symlach newydd y gallai masnachwyr ddymuno manteisio arnynt.
Mae CThEF wedi darparu gwybodaeth allweddol am y trefniadau hyn a'r camau y gallai fod angen i chi eu cymryd. Gallwch ddarllen canllawiau manylach a chael adnoddau ychwanegol am Fframwaith Windsor ar GOV.UK.
P'un ai ydych chi'n cynnig gwasanaethau, trwyddedau neu gynnyrch, mae allforio yn cynnig potensial i drawsnewid bron pob agwedd ar eich busnes. Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen hon: Pam allforio? | Busnes Cymru - Allforio