Dyma brif ddigwyddiad bwyd a diod y DU, a chyfle i chi gael ysbrydoliaeth busnes ac i ddysgu gan y diwydiant yn y DU a ledled y byd.
Bydd y Farm Shop & Deli Show yn cael ei chynnal yn NEC Birmingham rhwng 13 Ebrill a 15 Ebrill 2026, ochr yn ochr â'r Food & Drink Expo, The National Convenience Show a'r Forecourt Show, a hynny fel rhan o Sioeau Bwyd a Diod arobryn y DU. Mae’r digwyddiad yn dod â'r gorau o'r sectorau gwasanaeth bwyd, lletygarwch, gweithgynhyrchu, groser, arbenigedd, blaengwrt a manwerthu cyfleustra at ei gilydd o dan yr un to.
Dyw’n costio dim i gofrestru!
Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: Farm Shop & Deli Show 2026.