Bydd EXPO Busnes Cenedlaethol 2026 yn dod â busnesau at ei gilydd am ddiwrnod o rwydweithio, dealltwriaeth arbenigol a chyfleoedd masnachol.
Bydd sesiynau'n ymdrin â phynciau gan gynnwys:
- eiddo ac adeiladu
- deallusrwydd busnes
- seiberddiogelwch
- deallusrwydd artiffisial
- tendro
- iechyd a llesiant
- cynaliadwyedd
- iechyd a diogelwch
- cynllunio ariannol
Cynhelir yr EXPO ar 12 Tachwedd 2026 yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Am fwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen hon: The National Business EXPO - Zokit.
Defnyddiwch Ddigwyddiadur Busnes Cymru i chwilio am hyfforddiant sy’n gysylltiedig â busnes, gweithdai, cyfleoedd rhwydweithio, seminarau a mwy gan amrywiaeth o sefydliadau.