Newyddion

Estyniad i oriau trwyddedu – Cwpan y Byd Pêl-droed Dynion FIFA 2026

People watching football in a pub

Mae Llywodraeth y DU wedi lansio ymgynghoriad ynghylch a ddylid ymestyn oriau trwyddedu mewn safleoedd yng Nghymru a Lloegr yn ystod rownd gynderfynol a rownd derfynol Cwpan y Byd Dynion FIFA 2026 pe bai unrhyw un o'r gwledydd cartref (Cymru, Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon) yn cyrraedd y gemau hynny.

Mae'r ymgynghoriad wedi'i anelu at aelodau'r cyhoedd, awdurdodau trwyddedu lleol, safleoedd trwyddedig a phartïon eraill sydd â diddordeb yng Nghymru a Lloegr lle mae'r cynigion hyn yn berthnasol.

Mae'r ymgynghoriad yn cau am 11:59pm ar 15 Ionawr 2026.

I ymateb i'r ymgynghoriad, dewiswch y ddolen ganlynol:  Relaxation of licensing hours for the Men's Football World Cup 2026 - GOV.UK.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.