
Enillwch £5,000 i dyfu eich busnes ar y stryd fawr.
Mae Realising the Remarkable yn ôl! Mae Enterprise Nation a VistaPrint yn dod ynghyd eto i hyrwyddo busnesau annibynnol ar y stryd fawr yn y Deyrnas Unedig.
Os ydych chi’n rhedeg siop, caffi neu unrhyw safle masnachol arall, dyma'ch cyfle i gymryd y cam beiddgar nesaf.
Bydd y gronfa’n dosbarthu £30,000 i fusnesau manwerthu annibynnol bach yn y DU i'w helpu i wireddu eu huchelgeisiau busnes. Bydd chwe busnes manwerthu bach yn cael £5,000 yr un, yn ogystal â:
- thanysgrifiad am ddim am 12 mis i VistaCreate Pro, sef meddalwedd dylunio graffeg Vista
- £1,000 o gredyd i'w wario ar wefan VistaPrint yn y DU
I fod yn gymwys i wneud cais, rhaid i'ch busnes:
- fod wedi'i leoli yn y DU a bod â chyfrif banc busnes yn y DU
- bod yn fusnes masnachol cofrestredig, heb fwy na thri safle masnachol ffisegol
- bod â llai na 50 o weithwyr
- bod wedi bod yn masnachu am o leiaf chwe mis
- os gofynnir am hyn, bod yn barod i rannu’r stori lwyddiant ynghylch sut y defnyddiodd ei grant (gall VistaPrint ddefnyddio a/neu gyhoeddi'r manylion hyn ymhellach at wahanol ddibenion megis marchnata, hysbysebu a chysylltiadau cyhoeddus)
Nodwch: Mae'r grant arian parod yn drethadwy ac mae'r enillwyr yn gyfrifol am dalu'r rhwymedigaeth dreth.
Darganfyddwch fwy a gwnewch gais erbyn 30 Hydref 2025: Realising the Remarkable | Win a grant for your high-street business | Enterprise Nation