Newyddion

Enillwch grant busnes o hyd at £10,000 a bod yn rhan o Sage Small Business XI 2025!

bike shop owner

Mae Sage yn rhoi cyfanswm o £50,000 mewn grantiau busnes i un ar ddeg o fusnesau bach.

Mae'r gystadleuaeth yn agored i holl drigolion y DU sy’n 18 oed neu'n hŷn ac sy'n gwneud penderfyniadau ariannol neu'n berchennog busnes bach (a ddiffinnir fel cwmni cyfyngedig, unig fasnachwr, Partneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig (LLP), Cwmni Buddiant Cymunedol (CIC), Sefydliad Corfforedig Elusennol (CIO), elusen gofrestredig neu gorff nid-er-elw sy'n masnachu yn y DU ar hyn o bryd, gyda llai na 50 o weithwyr) gydag o leiaf flwyddyn o weithgaredd masnachu cyn dyddiad agor y gystadleuaeth.

Sut i gystadlu: Mewn dim mwy na 2,000 o nodau, dywedwch wrth Sage am eich taith fusnes: o ble y daethoch chi, sut y gwnaethoch chi gyrraedd lle rydych chi heddiw a ble rydych chi'n mynd. Maen nhw'n chwilio am straeon sy'n uchelgeisiol, yn dangos twf busnes, ac yn wirioneddol ysbrydoledig.

Cyflwynwch eich cais erbyn 12pm ddydd Llun 7 Gorffennaf 2025.

Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen hon: Sage x The Hundred | Small Business Competition | Enter to Win


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.