Gan Sara Robinson, Hyfforddwr Cysylltiadau Cyhoeddus a Chyfathrebu'r Rhaglen Cyflymu Twf
Mae ennill gwobr yn foment arbennig. Ond i'r rhan fwyaf o fusnesau, dyna’i diwedd hi. Caiff y tlws ei roi ar silff, mae'r tîm yn codi gwydraid … ac wedyn mae dydd Llun yn dod, ac yn ôl i fusnes fel arfer yw hi.
Dyna golli cyfle sylweddol.
Mae llawer o'r busnesau rydyn ni’n gweithio gyda nhw drwy'r Rhaglen Cyflymu Twf (RCT) yn casglu gwobrau a chlod yn ddistaw, ond ychydig sy'n gwneud yn fawr o’u gwerth llawn. Dim ond dechrau yw’r ennill. Gall yr hyn sy'n dilyn agor drysau i gwsmeriaid newydd, denu buddsoddwyr, rhoi hwb i ysbryd y tîm a chodi eich proffil mewn ffyrdd na all arian eu prynu'n hawdd.
A dyma rywbeth y mae mwy byth o fusnesau heb ei sylweddoli: does dim angen i chi ennill gwobr i elwa. Gall cyrraedd y rhestr fer fod yn gymeradwyaeth bwerus hefyd.
Bloeddiwch amdano ar y cyfryngau cymdeithasol (fwy nag unwaith!)
Yr eiliad y cewch chi eich rhoi ar y rhestr fer neu y cewch chi wybod eich bod chi wedi ennill, postiwch amdano ar eich sianeli ar y cyfryngau cymdeithasol. Caiff postiad amserol, dilys ar LinkedIn neu Instagram lawer mwy o sylw nag un a gaiff ei gyhoeddi wythnos yn ddiweddarach.
Wedyn, cadwch y sgwrs i fynd. Postiwch ar union noson y seremoni. Rhannwch lun o'r tu ôl i'r llenni. Dyfynnwch sylw un o’r beirniaid os caiff ei rannu. Postiwch eto ychydig wythnosau'n ddiweddarach â'r wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn sydd wedi digwydd ers hynny. Defnyddiwch y wobr yn fachyn cynnwys ar draws sawl postiad.
Tagiwch drefnydd y gwobrau ac unrhyw noddwyr. Yn aml byddan nhw’n ail rannu, gan ehangu eich cyrhaeddiad yn ddramatig.
Rhowch e yn y wasg
Mae cyrraedd y rhestr fer neu ennill yn stori newyddion go iawn. Peidiwch â'i gadael hi i siawns: ysgrifennwch ddatganiad i'r wasg a'i anfon allan eich hun.
Targedwch eich gwasg leol a rhanbarthol yn gyntaf; mae papurau newydd, atodiadau busnes a safleoedd newyddion ar-lein yn awyddus i gael straeon busnes lleol cadarnhaol. Wedyn, meddyliwch am eich cyhoeddiadau masnach neu sector; yn aml, y rhain y mae eich cwsmeriaid, eich cyflenwyr a'ch cystadleuwyr yn eu darllen. Peidiwch ag anwybyddu cyhoeddwyr newyddion digidol a blogiau busnes chwaith.
Cadwch eich datganiad i'r wasg yn gynnil a dynol. Dechreuwch gyda'r canlyniad, esboniwch beth mae'r wobr yn ei olygu a chynhwyswch ddyfyniad gennych chi neu gan eich tîm arwain. Cynigiwch ddelwedd o ansawdd uchel. Gwnewch hi'n hawdd i newyddiadurwr redeg y stori â chyn lleied o ymdrech ag y bo modd ar eu rhan.
Diweddarwch eich gwefan a LinkedIn
Yn aml, eich gwefan a'ch proffil LinkedIn yw'r lleoedd cyntaf y bydd darpar gwsmer, buddsoddwr neu bartner yn edrych. Gwnewch yn siŵr fod y wobr yn weladwy: ychwanegwch hi at eich hafan, eich tudalen 'Amdanom Ni' ac unrhyw dudalennau gwasanaeth perthnasol. Ysgrifennwch bostiad newyddion byr neu flog am y llwyddiant, sy'n helpu gyda gwelededd mewn chwiliadau hefyd. Diweddarwch dudalen eich cwmni ar LinkedIn a'ch proffil personol.
Mae'r rhan fwyaf o wobrau'n darparu bathodyn digidol neu logo i'r enillwyr a'r rhai sy'n cyrraedd y rownd derfynol. Defnyddiwch ef ym mhobman y gallwch chi. Mae'n ychwanegu hygrededd yn syth.
Ychwanegwch e at eich llofnod e-bost
Mae eich llofnod e-bost yn fan gwerthfawr iawn, ond dyw’r rhan fwyaf o fusnesau ddim yn defnyddio eu llofnod nhw’n ddigonol. Ychwanegwch logo'r wobr neu linell syml megis 'Enillydd: [Enw'r Wobr] 2026', a gwnewch yn siŵr bod eich tîm cyfan yn gwneud yr un peth.
Mae pob e-bost y mae eich busnes yn ei anfon yn troi'n gymeradwyaeth gynnil. Dros wythnosau a misoedd, mae hynny'n gyfwerth â miloedd o argraffiadau gyda'ch prif gynulleidfaoedd.
Ychydig mwy o syniadau gwerth rhoi cynnig arnyn nhw
Y tu hwnt i'r amlwg, dyma rai tactegau llai cyffredin a all wneud i'ch llwyddiant fynd ymhellach:
- Cynhwyswch ef yn eich pecynnau cyflwyno a'ch deunyddiau i fuddsoddwyr. Mae gwobrau'n arwydd o hygrededd a momentwm i gyllidwyr.
- Ychwanegwch ef at eich cynigion a'ch tendrau. Mae'n rhoi rheswm i dimau caffael eich dewis chi yn hytrach na chystadleuydd.
- Defnyddiwch ef wrth recriwtio. Mae busnesau arobryn yn denu gwell ymgeiswyr. Soniwch amdano yn eich hysbysebion swydd a'ch tudalen gyrfaoedd.
- Dathlwch gyda'ch tîm. Mae cydnabyddiaeth gyffredin yn meithrin balchder a theyrngarwch. Peidiwch â dibrisio ei werth yn fewnol.
- Defnyddiwch ef wrth gyfathrebu â chwsmeriaid. Cyfeiriwch at y llwyddiant mewn cylchlythyrau, cynigion ac e-byst dilynol lle mae'n berthnasol ac yn naturiol.
Gall gwobrau weithio’n galed dim ond i’r graddau rydych chi’n gwneud iddyn nhw weithio. Y busnesau sy'n trin llwyddiant yn sbringfwrdd, nid llinell derfyn, yw'r rhai sy'n cael y gwerth mwyaf.