Newyddion

Eithriadau o ran cofrestru gofal plant a'r cynnig ar gyfer Cynllun Cymeradwyo Gwirfoddol

female child with painted hands

Mae Llywodraeth Cymru eisiau eich barn ar y newidiadau arfaethedig i'r rheolau ynghylch cofrestru gwarchod plant a gofal dydd, a datblygu Cynllun Cymeradwyo Gwirfoddol ac maent yn ymgynghori ar y canlynol:

  • y newidiadau a gynigiwyd i'r amgylchiadau lle nad yw'n ofynnol i ddarparwr gofrestru fel gwarchodwr plant neu ddarparwr gofal dydd
  • y cynnig i ddatblygu Cynllun Cymeradwyo Gwirfoddol ar gyfer Darparwyr Gofal Plant, Gwaith Chwarae a Gweithgareddau sydd wedi'u heithrio rhag gorfod cofrestru
  • effaith bosibl y newidiadau hyn ar ystod o ffactorau, gan gynnwys y Gymraeg

Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 3 Tachwedd 2025: Eithriadau o ran cofrestru gofal plant a'r cynnig ar gyfer Cynllun Cymeradwyo Gwirfoddol | LLYW.CYMRU


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.