Newyddion

Eisteddfod Genedlaethol 2026 - Consesiynau Arlwyo, Stondinau ac Unedau

Eisteddfod at Wrexham

Cynhelir yr Eisteddfod Genedlaethol, gŵyl ddiwylliannol fwya'r wlad, yn Llantwd, Sir Benfro rhwng 1 Awst a 8 Awst 2026.

Eleni, rydyn ni’n dathlu yn ardal ‘y Garreg Las’, wedi’i henwi ar ôl y garreg leol drawiadol sy’n rhan o’n tirwedd a’n hanes.

Mae'r Brifwyl yn denu tua 150,000 o ymwelwyr bob blwyddyn, felly bachwch ar y cyfle hwn i hyrwyddo'ch busnes i gynulleidfa Gymraeg yn bennaf.

Manylion consesiynau arlwyo Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las. Mae'r cyfleoedd canlynol ar gael drwy dendr ar gyfer Eisteddfod 2026:

  • Pentref Bwyd (unedau arlwyo symudol)
  • Bwyty Platiad
  • Cynigion manwerthu eraill ar hyd y Maes
  • Hufen ia
  • Arlwyo a siop y maes carafanau
  • Maes B
  • Ffreutur criw'r Maes

Dyddiad cau: 12pm, 2 Mawrth 2026.

Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: Consesiynau arlwyo Eisteddfod 2026 | Eisteddfod.

Cofrestrwch i dderbyn gwybodaeth am stondinau Eisteddfod 2026 - beth fydd ar gael eleni:

  • Stondinau 3m x 6m
  • Cytiau Pren 3m x 2.5m
  • Stondinau 3m x 3m
  • Strwythurau
  • Hwb Trydydd Sector
  • Gofod ar y Maes 
  • Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Bydd y broses archebu stondin yn agor am 12pm ddydd Llun 2 Mawrth.

Cofrestrwch am ragor o wybodaeth: Stondinau ac unedau 2026 | Eisteddfod.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.