Newyddion

Eiddo deallusol a'ch gwaith

Mae diogelu eich eiddo deallusol yn ei gwneud hi'n haws i gymryd camau cyfreithiol yn erbyn unrhyw un sy’n ei ddwyn neu ei gopïo.

Rydych chi’n cael amddiffyniad awtomatig cyfyngedig am ychydig o eiddo deallusol, er enghraifft hawl dylunio. Fodd bynnag, mae'n haws profi eich bod yn berchen ar eiddo deallusol yn gyfreithiol os yw wedi'i gofrestru.

Cadwch eich eiddo deallusol yn gyfrinachol nes ei fod wedi'i gofrestru. Os oes angen i chi drafod eich syniad gyda rhywun, defnyddiwch gytundeb peidio â datgelu.

Mae gwahanol fathau o amddiffyniad gan ddibynnu ar beth rydych chi wedi'i greu.

Math o amddiffyniadYr eiddo deallusol y mae’n ei gwmpasuYr amser i'w ganiatáu ar gyfer y cais
Cofrestru marc masnachEnwau cynnyrch, logos, rhigymau4 mis
Cofrestru dyluniadYmddangosiad cynnyrch, gan gynnwys ei siâp, pecynnu, patrymau, addurno3 wythnos
Sicrhau hawlfraint ar gyfer eich gwaithGwaith ysgrifennu a llenyddol, celf, ffotograffiaeth, ffilmiau, teledu, cerddoriaeth, cynnwys ar gyfer y weNid oes angen cias
Patentu dyfaisDyfeisiadau a chynhyrchion, er enghraifft peiriannau, meddyginiaethau
    Tua 5 mlynedd

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Intellectual property and your work: Protect your intellectual property - GOV.UK (www.gov.uk)

Dysgwch yr hanfodion ar ddiogelu a manteisio ar eich eiddo deallusol gyda chanllawiau gan ein harbenigwyr drwy fynd I'n tudalen gymorth Arloesi Eiddo Deallusol | Arloesi (gov.wales)

 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.