Newyddion

Dysgwch a oes angen i chi ddechrau defnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm a phryd y dylech wneud hynny

person doing their taxes online

Mae Ffurflenni Treth yn newid – trwy ffordd newydd o gofnodi ac adrodd am eich incwm a’ch treuliau. Yr enw ar hyn yw ‘Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm’.

Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm os yw’r canlynol i gyd yn berthnasol:

Mae pryd y mae angen i chi ddechrau defnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm yn dibynnu ar eich incwm cymhwysol o fewn blwyddyn dreth. Os yw’ch incwm cymhwysol dros y terfynau canlynol:

  • £50,000 ar gyfer blwyddyn dreth 2024 i 2025, bydd angen i chi ei ddefnyddio o 6 Ebrill 2026 ymlaen
  • £30,000 ar gyfer blwyddyn dreth 2025 i 2026, bydd angen i chi ei ddefnyddio o 6 Ebrill 2027 ymlaen
  • £20,000 ar gyfer blwyddyn dreth 2026 i 2027, mae’r Llywodraeth wedi nodi cynlluniau i’w gyflwyno deddfwriaeth i ostwng y trothwy incwm cymhwysol (yn agor tudalen Saesneg)

Bydd angen i bartneriaethau busnes hefyd ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm yn y dyfodol. 

Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: Dysgwch a oes angen i chi ddechrau defnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm a phryd y dylech wneud hynny - GOV.UK.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.