
Mae miloedd o fyfyrwyr ledled Cymru ar fin derbyn eu canlyniadau Safon Uwch, TGAU a chymwysterau galwedigaethol yn y dyddiau a'r wythnosau nesaf, ac mae prentisiaethau yn llwybr gwerthfawr i bobl ifanc sydd eisiau cyfuno gwaith â dysgu wrth ennill sgiliau ymarferol ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol.
Mae gwneud prentisiaeth yn bosibl diolch i ymrwymiad cyflogwyr ledled Cymru, sy'n chwarae rhan hanfodol wrth gynnig cyfleoedd ystyrlon i bobl ifanc. Drwy Warant i Bobl Ifanc Llywodraeth Cymru, rydym yn gweithio i gefnogi ac annog mwy o gyflogwyr i recriwtio prentisiaid gan helpu i sicrhau bod llwybrau dysgu seiliedig ar waith o ansawdd uchel yn parhau i fod yn hygyrch i bob person ifanc 16 i 24 oed.
Fe'u darperir gan ystod o ddarparwyr - gan gynnwys colegau, sefydliadau hyfforddi a phrifysgolion trwy radd-brentisiaethau - maent yn cynnig dewis arall i lwybrau academaidd traddodiadol.
Maent yn caniatáu i bobl ifanc ymuno â'r gweithlu tra'n parhau â'u haddysg a gweithio tuag at gymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol, o lefel sy'n cyfateb i TGAU i raddau.
O dechnoleg ddigidol a pheirianneg i'r sectorau gofal iechyd, adeiladu ac ynni gwyrdd, mae prentisiaethau ar gael ar draws ystod eang o ddiwydiannau sy'n hanfodol i ddyfodol economaidd Cymru.
Drwy Cymru'n Gweithio, gall myfyrwyr gael gafael ar wybodaeth gynhwysfawr am gyfleoedd, derbyn arweiniad ar geisiadau a chysylltu â chyflogwyr sy'n cynnig swyddi ledled Cymru.
Mae'r gwasanaeth hefyd yn darparu cymorth wedi'i bersonoli i baru diddordebau a galluoedd pobl ifanc â rhaglenni addas.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Dysgu wrth i chi ennill: hyrwyddo prentisiaethau cyn y diwrnod canlyniadau | LLYW.CYMRU