Mae dylunydd goleuo o Gaerffili, y mae ei sioeau wedi creu cryn argraff ar gynulleidfaoedd o Las Vegas i Dubai, yn dod â'i ddoniau adref i Gymru.
Bydd Paul James, sydd wedi goleuo llwyfannau ledled y byd ar gyfer artistiaid gan gynnwys y seren fyd-eang Rihanna a'r band o Gymru, Super Furry Animals yn perfformio i'r Prif Weinidog ac arweinwyr busnes o bob cwr o'r byd, gyda’r actor Cymreig Michael Sheen yn cyflwyno.
Mae Paul wedi treulio 25 mlynedd yn creu arddangosfeydd goleuadau arloesol a bydd yn arddangos ei waith i fwy na 300 o gynrychiolwyr o dros 27 o wledydd yn Uwchgynhadledd Buddsoddi Cymru ar 1 Rhagfyr.
Bydd y digwyddiad yn dod ag arweinwyr busnesau a chwmnïau o Gymru ynghyd i arddangos Cymru fel cyrchfan fuddsoddi. Ymhlith y Cymry a fydd yn estyn croeso cynnes bydd enillydd y Tour de France, Geraint Thomas a chyflwynydd The One Show y BBC, Alex Jones.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Dylunydd Cymreig sydd wedi syfrdanu cynulleidfaoedd byd-eang i oleuo Uwchgynhadledd Buddsoddi Cymru | LLYW.CYMRU.