Newyddion

Dylunwyr i gael amddiffyniad cryfach a symlach mewn diwygiadau mawr

Graphic designer

Bydd newidiadau yn helpu busnesau llai i ddiogelu eu gwaith a moderneiddio diogelwch dyluniadau.

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ailwampio system ddylunio'r DU.

Yn dilyn ymgynghoriad dan arweiniad y Swyddfa Eiddo Deallusol (IPO), a gaeodd ym mis Tachwedd 2025, mae Llywodraeth y DU wedi nodi pecyn o ddiwygiadau wedi'u targedu.

Mae'r rhain yn cynnwys mesurau i:

  • atal cystadleuwyr rhag copïo dyluniadau a rhwystro dylunwyr rhag gwerthu eu cynnyrch eu hunain
  • cynnig llwybr symlach, mwy fforddiadwy i fusnesau dylunio llai ddwyn achos llys pan fyddant yn credu bod eu dyluniadau wedi cael eu copïo
  • lleihau baich gweinyddol cofrestru dyluniadau, gyda phrosesau mwy cyson a dulliau gwarchod cofrestredig ac anghofrestredig symlach
  • egluro a moderneiddio diogelwch ar gyfer dyluniadau sy'n cynnwys animeiddio, gydag opsiynau ffeilio newydd ar gyfer ffeiliau delweddau symudol

Am ragor o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen hon: Designers to get stronger and simpler protection in major reforms - GOV.UK.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.