Newyddion

Dyfodol Ynni Cymru 2026

Wind turbines

Mae Dyfodol Ynni Cymru 2026 RenewableUK Cymru yn gyfle i sector ynni adnewyddadwy cyfan Cymru ddod at ei gilydd a thrafod sut i bweru'r dyfodol dros y blynyddoedd i ddod.

Mae Dyfodol Ynni Cymru, sy'n cael ei gynnal ar 3 a 4 Tachwedd, yn rhoi cyfle i chi fel cynrychiolydd gysylltu â chwmnïau ar draws y gadwyn gyflenwi yng Nghymru, o fusnesau bach newydd i ddatblygwyr mawr. Mae'n cynnig cip ar gynllun ynni Cymru ac yn canolbwyntio ar gamau gweithredu clir i ddatgloi potensial ynni adnewyddadwy Cymru ar draws pob technoleg, gan fynd i'r afael â'r heriau allweddol sy'n wynebu rhanddeiliaid Cymru.

Cyfraddau:

  • Aelodau £366.00 gan gynnwys TAW
  • Rhai nad ydynt yn Aelodau £546.00 gan gynnwys TAW

Prisiau gostyngol ar gael ar gais i'r grwpiau canlynol:

  • Llywodraeth
  • Myfyrwyr
  • Grwpiau nid-er-elw

Mae cyfleoedd noddi ac arddangos ar gael.

Am fwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen hon (tudalen Saesneg): Dyfodol Ynni Cymru 2026 | 3 – 4 Tachwedd, ICC Cymru | RenewableUK Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.