Newyddion

Dyddiad cau newydd ar gyfer ailgyflwyno data am becynwaith 2025

Warehouse worker packing boxes

Mae PecynUK, ar ran pedair gwlad y DU, yn cyflwyno dyddiad cau ar gyfer ailgyflwyno, sef 1 Medi 2026.

Mae hyn yn berthnasol i gyflwyno data am becynwaith 2025 gan gynhyrchwyr sy’n talu ffioedd cyfrifoldeb cynhyrchwyr estynedig dros becynwaith.

Mae’r dyddiad cau, sef 1 Medi, yn rhoi cyfnod o bum mis i gynhyrchwyr, o’r dyddiad cau ar gyfer adrodd, sef 1 Ebrill, i gywiro unrhyw wallau ac ailgyflwyno data am becynwaith. Bydd hyn yn golygu bod modd cyhoeddi ffioedd a Hysbysiadau Atebolrwydd yn nes ymlaen eleni, heb ddisgwyl newidiadau pellach na gorfod ailgyfrifo ymhellach.

Am fwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen hon: Dyddiad cau newydd ar gyfer ailgyflwyno data am becynwaith 2025 - GOV.UKPecynUK - GOV.UK.

Mae'r Addewid Twf Gwyrdd yn helpu busnesau Cymru i gymryd camau rhagweithiol tuag at wella eu cynaliadwyedd, gan ddangos eu heffaith gadarnhaol ar y bobl a'r llefydd o'u cwmpas, yn ogystal ag ymuno â chymuned gynyddol o sefydliadau blaengar sy'n helpu Cymru i drawsnewid i ddyfodol carbon isel. Cofrestrwch yn Addewid Twf Gwyrdd | Busnes Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.