Newyddion

Dyddiad cau ar gyfer herio prisiad eich trethi busnes

Morgan Arcade, Cardiff

Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) wedi diweddaru prisiad ardrethol yr holl eiddo masnachol ac eiddo annomestig arall yng Nghymru a Lloegr.

Mae unrhyw un sy'n talu ardrethi busnes, ac sy'n credu bod eu prisiad presennol yn anghywir, yn cael ei annog i gofrestru ar gyfer cyfrif prisio ardrethi busnes. 

Os nad oes gennych gyfrif eisoes, neu os nad ydych wedi defnyddio'ch un chi ers peth amser, gall gymryd 15 diwrnod gwaith i gofrestru a hawlio'ch eiddo.

Mae gennych tan 31 Mawrth i ofyn am newidiadau i'ch prisiad presennol drwy:

  • wirio'r manylion y mae'r VOA yn eu cadw am eich eiddo
  • dweud wrth y VOA os oes unrhyw beth o'i le.

O 1 Ebrill 2026, bydd rhestr ardrethu newydd a phrisiadau newydd yn dod i rym a dim ond gofyn am newidiadau i'ch gwerthusiad newydd y byddwch yn gallu ei wneud.

Am ragor o wybodaeth dilynwch y dolenni canlynol:

I gael gwybod am Ardrethi Busnes yng Nghymru, dewiswch y ddolen ganlynol: Ardrethi Busnes yng Nghymru | Busnes Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.