
Bydd Dydd Miwsig Cymru yn dathlu 10fed pen-blwydd ar 7 Chwefror 2025.
Wedi'i ddathlu ledled Cymru a thu hwnt, nod y digwyddiad blynyddol hwn yw arddangos amrywiaeth cerddoriaeth Cymraeg ar draws gwahanol genres.
Dros y degawd diwethaf, mae Dydd Miwsig Cymru wedi cynnal digwyddiadau o Budapest i Brooklyn, gyda chynlluniau ar gyfer 2025 i ehangu ei gyrhaeddiad ymhellach ar draws lleoliadau gwledig a threfol yng Nghymru.
Os bydd dy fusnes yn dathlu o'r gweithle neu o gartref, mae nifer o ffyrdd i gymryd rhan.
Sut gall dy fusnes gymryd rhan yn Dydd Miwsig Cymru?
- Gwna addewid i chwarae miwsig Cymraeg yn y swyddfa, mewn canghennau, yn y siop neu'r caffi ar y diwrnod neu drwy gydol y flwyddyn.
- Cynhalia gig gydag artist Gymraeg yn eich lle busnes.
- Newidia lun proffil / baner dy gyfryngau cymdeithasol i frand Dydd Miwsig.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i:
Mae llawer o resymau da i chi i ddefnyddio'r Gymraeg yn eich busnes, ewch i'r tudalennau Helo Blod i gael gwybod mwy.