Newyddion

Dweud eich dweud ar strategaeth newydd Cymru ar gyfer pren

 Glyndŵr's Way, Staylittle, Mid Wales

Gyda'r galw byd-eang am bren yn debygol o gynyddu bedair gwaith erbyn 2050, sut y gall Cymru elwa ar y twf disgwyliedig gan ddiogelu, ar yr un pryd, ei choedwigoedd at y dyfodol?

Dyna'r cwestiwn yr hoffai Llywodraeth Cymru gael eich barn arno cyn lansio strategaeth ddiwydiannol ar gyfer pren yn ddiweddarach eleni. Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 16 Ebrill 2025.

Pan fydd yn barod, bydd y strategaeth newydd yn nodi llwybr clir ar gyfer sut y bydd y llywodraeth a diwydiant yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau economi ffyniannus sy'n seiliedig ar bren yng Nghymru. 

Bydd yn cynnwys cynlluniau i ddiogelu coedwigoedd at y dyfodol, creu swyddi gwyrdd yn y diwydiant pren, datblygu tai mwy cynaliadwy a hybu datgarboneiddio.

Am ragor o wybodaeth dewisiwch y ddolen ganlynol: Dweud eich dweud ar strategaeth newydd Cymru ar gyfer pren | LLYW.CYMRU


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.