Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, cyhoeddodd Banc Datblygu Cymru heddiw ei fod wedi creu a diogelu dros 50,000 o swyddi ar draws y wlad, gan nodi carreg filltir arwyddocaol gyda £1 biliwn wedi'i fuddsoddi mewn ecwiti, dyled ac eiddo ers 2017.
Mae'r buddsoddiad o £1 biliwn wedi cefnogi 51,089 o swyddi ac wedi cynhyrchu £5.8 biliwn mewn Gwerth Ychwanegol Gros (GYG) sy'n seiliedig ar swyddi – bron chwe gwaith yn fwy o enillion mewn gwerth economaidd. Mae cyfraniad y Banc Datblygu i economi'r genedl wedi datgloi £636 miliwn pellach mewn cyd-gyllid sector preifat, gan ehangu ei effaith gyffredinol.
Mae 4,699 o fusnesau gwahanol ledled Cymru wedi elwa o 5,184 o fuddsoddiadau gan y Banc Datblygu ers 2017. Mae hyn yn cynnwys £89 miliwn ar gyfer 292 o fentrau technoleg arloesol, a £275 miliwn i ddatblygwyr eiddo Cymru i adeiladu 2,302 o gartrefi newydd.
Yng Ngogledd Cymru, mae 1,078 o fusnesau wedi elwa o fuddsoddiad gwerth cyfanswm o £240.4 miliwn a £135.3 miliwn pellach mewn cyd-fuddsoddiad. Mae 1,399 o fusnesau yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru wedi cael £323.4 miliwn gan y Banc Datblygu a £143.2 miliwn mewn cyd-fuddsoddiad. Mae De-ddwyrain Cymru wedi gweld buddsoddiad uniongyrchol o £436.5 miliwn a chyd-fuddsoddiad o £375.5 miliwn ar gyfer 2,222 o fusnesau.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Dros 50,000 o swyddi wedi'u sicrhau gan Fanc Datblygu Cymru mewn buddsoddiad carreg filltir o £1 biliwn i Gymru - Dev Bank.