Newyddion

Does dim rhaid i chi aros tan fis Ionawr i ffeilio eich ffurflen dreth Hunanasesiad

Person doing their taxes online

Os nad ydych wedi ffeilio eich ffurflen dreth Hunanasesiad ar gyfer 2024 i 2025, does dim rhaid i chi aros tan 31 Ionawr 2026, gallwch wneud hyn unrhyw bryd. Mae hyn yn golygu y byddwch chi'n osgoi'r rhuthr munud olaf wrth i'r dyddiad cau agosáu.

Mae ffeilio'n gynnar yn golygu: 

  • eich bod yn gallu cael eich arian yn gynt os oes ad-daliad yn ddyledus i chi gan CThEM. 
  • eich bod yn gwybod faint o dreth y mae angen i chi ei thalu, felly gallwch chi gyllidebu neu sefydlu cynllun talu gyda ni
  • efallai y byddwch yn gallu talu'r hyn sy'n ddyledus trwy eich cyflog neu bensiwn y flwyddyn dreth ganlynol
  • yn gallu defnyddio eich cyfrifiad treth fel prawf o incwm ar gyfer morgais, benthyciad ac unrhyw hawliadau am fudd-dal

A, bydd gennych hyd at 31 Ionawr 2026 i dalu'r hyn sy'n ddyledus.

Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen hon: File your Self Assessment tax return early - GOV.UK


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.